Skip to main content
www.rctcbc.gov.uk

Haf 2025

Haf o Hwyl yn 2025

Bydd ymwelwyr i'r parc ym Mis Mai wedi synnu ar y cynifer o ddigwyddiadau sydd ar gael o fewn y parc. Dathliadau Diwrnod "VE", Cerddoriaeth yn y Bandstand, Llwybr Celf "pArt of Pontypridd", a Gŵyl Band Pres Pontypridd. Mae'r Ganolfan yn falch iawn ein bod wedi bod yn gysylltiedig i bob un o'r digwyddiadau yma.

Yn ogystal â digwyddiadau Bandstand, ry'n ni'n hynod o ddiolchgar i ein gwirfoddolwr Howard Thomas am gynnal 2 sgwrs am Gaffis Eidalaidd ym Mhontypridd a Chilfynydd- mi fydd y sgwrs yna ar gael cyn hir ar ein gwefan hefyd. Cadwch lygaid ar ein tudalennau cymdeithasol am fwy o sgyrsiau sydd i ddod!

Ag os ydych chi ffansi gwneud ychydig o arddio gyda ni- mae Ffrindiau Parc Coffa Ynysangharad yn hapus i groesawch chi i ardd Calon Taf! Ymunwch a ni pob Dydd Mercher 10:00-12:00, mae'r ardd yn edrych yn hynod o bert ar hyn o bryd- mae hi werth gweld!

Mae na cymaint o bethau i wneud yn y Ganolfan dros yr Haf- mae wastad croeso i chi alw draw i ddysgu mwy!

Wedi ei bostio ar Monday 19th May 2025

Tudalennau Perthnasol