Skip to main content
www.rctcbc.gov.uk

2024 at Calon Taf

2024 yng Nghalon Taf

 

Hoffem ni yng Nghalon Taf ddiolch i bob un o'n hymwelwyr am 2024 gwych. Llynedd gwelwyd llawer o fentrau newydd ar gyfer Canolfan Calon Taf; a gwnaed pob un o'r rhain yn bosibl diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.  O’ch Blaenau, mi wnewch chi gweld cipolwg byr o'r hyn a ddigwyddodd ym mhob mis yn 2024, ac yna cipolwg o'r hyn sydd i ddod!

 

Ionawr

Dechreuodd Ionawr 2024 gyda gosod paneli gwybodaeth newydd o amgylch y parc. Ydych chi wedi cymryd hoi bach i ddarllen ein paneli? Y paneli yw Bywydau o'r Rhyfel Byd Cyntaf (ar bwys y Silwetau), Y Bandstand, Cofeb Evan James a James James, Hanes Chwaraeon (ar bwys y pafiliwn criced), Y Lido, a Thŷ Ynysangharad (wedi'i leoli o fewn Calon Taf).

 

Fe wnaethom hefyd ddechrau ein tudalen Instagram ym mis Ionawr – Beth am dilyn ni i weld rhai lluniau swynol o'r parc a'n gweithgareddau?

 

Chwefror

Ym mis Chwefror, cafodd Calon Taf fis llawn celf lle cynhaliwyd Diwrnod Crefft San Ffolant a nifer o Weithdai creu matiau diod serameg. Os oeddech chi'n aelod o'r cyhoedd neu'n grwpiau ysgol a ddaeth i'r gweithdy matiau diod - gobeithio bod eich mat diod wedi cael defnydd da!

 

Mawrth

Ym mis Mawrth cawsom sgwrs hanes wefreiddiol gan Peter Walker am y gymeriad unigryw “Empire Jack”. Mae’n bosib gwylio recordiad o’r fideo yma ar y dudalen adnoddau. Buom hefyd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn steil fel YGG Evan James, Ysgol Heol-y-Celyn, YGG Pont Sion Norton, YGG Castellau, Côr Star Factor, Côr Cymunedol Pontypridd, Côr Drive Wales, Ble Ydyn Ni, Catrin Herbert, Lucy Chivers a Dadleoli i gyd yn perfformio ar y Bandstand. Diolchwn i’n partneriaid Menter Iaith Rhondda Cynon Taf a Chlwb y Bont am gydweithio ar ddiwrnod mor bwysig, ac rydym yn ddiolchgar i Ferched y Wawr am wirfoddoli a rhedeg siop gacennau a choffi bendigedig i godi arian ar y diwrnod!

 

Ebrill

Ym mis Ebrill, adeiladodd ein myfyriwr ar leoliad o Brifysgol De Cymru, Roxy, Westy Trychfilod sydd bellach yn sefyll yn falch yn ein gardd. Gwahoddwyd Grwpiau Ysgol a theuluoedd yn ystod gwyliau’r Pasg i ddarparu “gwasanaeth ystafell” i’r gwesty trwy lenwi’r gwesty â deunyddiau cyfeillgar i chwilod.

Cynhaliodd Jon Williams hefyd ddwy sgwrs hynod ddiddorol am Frwydr Coed Mametz a’r naratif yn y blynyddoedd wedi hynny. Mae’n bosib gwylio recordiad o’r ddwy sgwrs yma ar ein tudalen Adnoddau.

Cawsom hefyd bleser gan ddychweliad Shiny Happy People - grŵp canu a dawnsio i fabanod a phlant bach sydd bob amser yn dod â llawenydd i'r ganolfan.

 

Mai

 Ym mis Mai, cynhaliodd Howard Thomas sgwrs hanes ar ffermio ym Mhontypridd yn y 50au a’r 60au. Hon fyddai 2il sgwrs hanes Howard gyda ni, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am frwdfrydedd Howard a’i gefnogaeth i’n Canolfan.

Roeddem yn falch iawn o gymryd rhan yn “Turning Ponty Blue” Pontypridd sy’n Gyfeillgar i Ddementia, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r rhai sy’n byw gyda dementia a’u cyfeirio at wasanaethau a allai helpu aelodau o’r cyhoedd neu eu hanwyliaid. Bu Calon Taf yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ddarparu adloniant a hel atgofion ar y Bandstand, a’r cyfle i gymryd rhan mewn therapi symud.

Darparodd yr Emmeralds a Chlwb Coffi Bella Vista gerddoriaeth yn y Bandstand ar ddiwrnod hyfryd ym mis Mai hefyd.

 

Mehefin

Ym mis Mehefin cafwyd penwythnos prysur iawn i Calon Taf ar ffurf Garddwest! Cafodd aelodau’r cyhoedd eu trin â cherddoriaeth ar y Bandstand gan Volveremos, Gwneud Ffyn Boggart, Adeiladu Bwgan Brain, Gweithdai Plannu ac Argraffu Llysiau. Roedd hefyd yn gyfle gwych i aelodau’r cyhoedd ddysgu am Gyfeillion Parc Coffa Ynysangharad. Os hoffech chi ddod yn arddwr gwirfoddol gyda’r Cyfeillion, dewch i ymweld â nhw draw yn Calon Taf bob dydd Mercher 10-12pm.

Daeth mis Mehefin i ben gyda sgwrs gan ffrind annwyl i'r Ganolfan, Peter Burridge. Rhoddodd sgwrs Hanes i ni am Ddygnwch Shackleton. Diolchodd Peter i gwrs Tabledi a Ffonau iPad Calon Taf am roi’r gallu iddo gyflwyno’r sgwrs ar ei iPad. Mae'r fideo ar gael i'w wylio ar ein tudalen adnoddau.

 

Gorffennaf

Ym mis Gorffennaf cafodd Calon Taf ymweliad gan Gôr Synod Mizoram. Daeth côr a deithiodd o Mizoram, India, i gyfnewid caneuon wrth ymyl cofeb Evan James a James James – roeddem yn wirioneddol ddiolchgar i groesawu lleisiau mor swynol i’r parc a’n canolfan.

 

Awst

Ym mis Awst daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Barc Coffa Ynysangharad. Trawsnewidiodd Calon Taf yn bentref RhCT yn ystod yr Eisteddfod ac roeddem yn falch iawn o fod wedi croesawu ymwelwyr hen a newydd i’n lleoliad.

 Daeth mis Awst i ben gyda Teithiau Cerdded Glöynnod Byw a Helfeydd Trychfilod a ddarparwyd gan “Nature On Your Doorstep”. Diolch i'r holl helwyr chwilod a fynychodd y gweithgareddau!

 

Hydref

Mae Awyr Dywyll Cymru yn darparu planetariwm o fewn Calon Taf, sy'n golygu y gallai teuluoedd weld y sêr o'r parc yn ystod hanner tymor. Yn ystod hanner tymor fe wnaethom hefyd gynnal Gweithdy plannu bylbiau gyda Fferm Flodau Coalfield, gwneud ffyn hudolus yn y parth gwyllt gyda Growing Space Pontypridd, a chynnal gweithdy ysgrifennu creadigol gyda’r bardd a rapiwr Rufus Mufasa.

Cynhaliwyd dwy daith gerdded Ffwng yn ddiweddarach ym mis Hydref gyda Ffyngau Difetha Glo - cawsom ein rhyfeddu gan faint o ffyngau y gallwch chi eu gweld yn y parc!

Roeddem hefyd yn falch iawn o fod wedi chwarae ein rhan yng Ngŵyl Morfydd Owen, darparodd yr artistiaid Lois a Lio arddangosfa gelf a gweithdai celf i ni a oedd yn rhan o amserlen fwy o ddigwyddiadau o fewn y penwythnos gwych hwnnw.

Bu’r Cogydd lleol, Gavin Akers, hefyd yn darparu sesiynau “O’r Parc i’r Plât” i ni lle bu aelodau’r cyhoedd yn mwynhau arddangosiad coginio gan ddefnyddio llysiau y gellir eu canfod yng ngardd Calon Taf.

 

Tachwedd

Ym mis Tachwedd bu aelodau’r cyhoedd yn plannu tiwlipau, cennin pedr a chrocysau yn ein gardd gyda chymorth “Coalfield Flower Farm".

Croesawyd Stephen John hefyd a ddarparodd 2 Sgwrs Hanes amhrisiadwy i ni lle soniodd am y bywydau a gollwyd o Ysgol Ramadeg Bechgyn Pontypridd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Rhagfyr

Ym mis Rhagfyr, wrth gwrs, caewyd Calon Taf a'r Parc oherwydd stormydd Bert a Darragh. Rydym wrth gwrs yn meddwl amdanno’r cartrefi a’r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y stormydd hyn. Diolchwn i’r cyhoedd am eu hamynedd yn ystod y cyfnod cau.

 

2025

Beth sydd i ddod yn 2025? Ym mis Ionawr yn unig; Bydd Calon Taf yn cynnal sgwrs hanes gan Keith Jones, Gweithdai Dawns gan Deviate Creatives, Gweithdai Serameg gan Coop Ceramics, a Diwrnod Celfyddydau i’r Teulu ar y 25ain o Ionawr gyda nifer o artistiaid! Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf am y rhestr gynyddol o weithgareddau a chyrsiau sydd ar gael yn ein canolfan.

 

Mae croeso cynnes bob amser yma yng Nghalon Taf.

Wedi ei bostio ar Wednesday 16th Ebrill 2025

Tudalennau Perthnasol