Mae Calon Taf yn cynnig mannau amlbwrpas ar gyfer eich digwyddiadau, gweithdai, a chyfarfodydd, i gyd wedi’u lleoli ym Mharc Coffa Ynysangharad sy’n gyfoethog ac yn brydferth o ran treftadaeth.
Wrth edrych i logi gofod nesaf, beth am ystyried lleoliad sy’n dathlu ei dreftadaeth ddiwydiannol a naturiol o fewn tref enedigol Anthem Genedlaethol Cymru.
Stafell Ddosbarth
Argaeledd: 9:00am - 5:00pm Llun-Gwener
Cyfradd: £15 yr awr (TAW yn gynwyiedig)
Mae ein ystafell ddosbarth llawn offer sy’n ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. Mae'n cynnwys sgrin glyfar digidol 55" sy'n eich galluogi i blygio ffon-gof i mewn yn uniongyrchol neu gysylltu gliniadur gan ddefnyddio ein gwifrau HDMI neu USB-C.
Nodwch, os gwelwch yn dda. Os hoffech logi’r ystafell ddosbarth y tu allan i oriau swyddfa arferol – y gyfradd llogi fydd £30 yr awr (TAW yn gynwysedig)
Nodweddion y Dosbarth:
- Sgrin Smart Digidol: Perffaith ar gyfer cyflwyniadau a sesiynau rhyngweithiol.
- Dodrefn: 8 bwrdd a 30 o gadeiriau, sy'n cael eu storio yn yr ystafell storio gyfagos.
- Cegin Fach: Yn cynnwys cyllyll a ffyrc, cwpanau serameg, pwynt berwi dŵr, ac oergell.
- Golau Naturiol: Dwy set o ffenestri mawr sy'n edrych allan tuag at y tŷ gwydr a'r ardd, a'r cae criced a'i bafiliwn.
- Gofod Hyblyg: Gellir plygu'r prif ddrysau ar agor i greu cyfuniad di-dor rhwng yr ystafell ddosbarth a'r ardd.Other Spaces
Mae gan Calon Taf hefyd ardal tŷ gwydr hardd ac ardal arddangos cysgodol fechan sydd ar gael am gost is. Mae'r mannau hyn yn berffaith ar gyfer gweithgareddau mwy anffurfiol neu ymarferol. Cysylltwch â ni os hoffech chi gael gwybod mwy.
Cyfleusterau
- Toiledau Hygyrch: Dau doiled hygyrch ar y safle, gydag un toiled yn cynnwys cyfleusterau newid cewynnau.
- Gwybodaeth Hanesyddol: Cymerwch amser i ddarllen y wybodaeth hanesyddol a roddir ar waliau ein gerddi, sy'n rhoi rhywfaint o gyd-destun hanesyddol i ymwelwyr y parc am Barc Coffa Ynysangharad.
Gwybodaeth Llogi
I drafod llogi ein hystafell ddosbarth, ardal tŷ gwydr, neu ardal arddangos gysgodol, e-bostiwch CalonTaf@rctcbc.gov.uk