Skip to main content

Amdanom Ni

Mae Canolfan Calon Taf yn ganolfan sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ein nod yw rhoi dealltwriaeth well i ddefnyddwyr y parc o dreftadaeth y parc. 

Calon-Taf-ExteriorRydym yn falch o ddathlu hanes 100 mlynedd y parc wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol tragwyddol Parc Cofebol Rhyfel Ynysangharad.

Canolfan Calon Taf

Mae'r ganolfan ei hun yn cynnwys ystafell hyfforddi gyda sgrin ddigidol fawr ac ardal gegin fach. Gellir defnyddio'r ardal hon fel gofod clir neu gall unigolion ddefnyddio ein bwrdd a chadeiriau symudol i greu amgylchedd cynhadledd neu ddarlith.

Ochr yn ochr â'r ystafell hyfforddi mae swyddfeydd Calon Taf ac ar yr ochr arall mae 2 doiled hygyrch.

Tŷ Gwydr a’r Ardal Garddio

Mae ardal yr ardd yng Nghanolfan Calon Taf yn ardal a fydd yn parhau i dyfu wrth i ni ddatblygu perthynas gryfach â'r gymuned o'n cwmpas. Mae gan y ganolfan nifer o welyau gardddio a thŷ gwydr mawr sydd angen garddwyr brwd a gwirfoddolwyr sydd â bysedd gwyrdd. Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan yn ardal yr ardd yng Nghanolfan Calon Taf.

Bandstand

Mae'r Bandstand wedi dod â cherddoriaeth a llawenydd i Barc Cofebol Rhyfel Ynysangharad ers 1926. Gyda diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, dechreuodd gwaith yn 2022 ar adnewyddu'r Bandstand yn ofalus i barhau â'i etifeddiaeth gerddorol. Mae Calon Taf yn falch iawn o fod yn byw ochr yn ochr â lleoliad mor werthfawr o'r parc, ac rydym yn addo parhau i lenwi'r gofod hwn â cherddoriaeth a llawenydd.

Gardd Suddedig

Gellir dod o hyd i'r ardd suddiedig rhwng ardal y Gofeb Ryfel a'r cyrtiau tenis. Mae'r ardd yno i'r rhai sydd eisiau eiliad o dawelwch. Wrth ymweld â'r ardd, rydym yn eich gwahodd i ddarllen am etifeddiaeth ein glöwyr, a sut y helpodd Cronfa Lles y Glöwyr i ddarparu parc i'w bobl. Hoffem ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am eu cymorth wrth gynnal yr ardd.

 

Tudalennau Perthnasol