Skip to main content

Adnoddau

Croeso i adran Adnoddau Canolfan Calon Taf! Yma, fe welwch amrywiaeth o ddeunyddiau a gynlluniwyd i’ch helpu i archwilio ac ymgysylltu â hanes cyfoethog a harddwch naturiol Parc Coffa Ynysangharad. P’un a ydych chi’n athro sy’n chwilio am becynnau addysgol, yn frwd dros hanes, neu’n awyddus i grwydro’r parc trwy lwybrau cerdded, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.

 

Stori Dros Gyfnod o 100 Mlynedd

Nid canolfan dreftadaeth ac addysg yn unig yw Canolfan Calon Taf; mae'n bont i'r gorffennol, yn borth o wybodaeth, ac yn ffynhonnell lles i'n cymuned. Estynnwn ein diolch o galon i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am eu cefnogaeth hael. Gyda’n gilydd, rydym yn dathlu ac yn gofalu am treftadaeth 100 mlynedd Parc Coffa Ynysangharad.

Dyma restr gynyddol o adnoddau sydd ar gael i chi ddysgu am dreftadaeth y parc a dysgu rhagor am dreftadaeth mewn cyd-destun ehangach.

Llyfryn Canmlwyddiant - pdf (3.16mb)

Deunyddiau Lluniadu - pdf (286mb)

 

Tudalennau Perthnasol