Skip to main content
www.rctcbc.gov.uk

Dathlu 2025

Diolch i chi gyd am flwyddyn wych yn 2025.

Eleni, gwelsom gerddoriaeth yn y Bandstand, Teithiau Cerdded Ystlumod a Theithiau Trychfilod, a digonedd o weithgareddau yn gardd Calon Taf. Gyda'n diolch diffuant i'n haneswyr gwirfoddol, rydym wedi cynnal sgyrsiau hanes yn amrywio o'n gorffennol diwydiannol, coffa, a bywyd gwyllt lleol i berfformwyr ac adlonwyr Pontypridd. Rydym wedi bod wrth ein boddau yn cymryd rhan mewn digwyddiadau'r dref - Rydym wedi partio gyda Parti Bach Ponty, wedi dawnsio i gerddoriaeth Gŵyl Band Pres Pontypridd, ac wedi cydgannu pan groesawyd Gŵyl Morfydd Owen yn ôl.

Hoffem ddiolch i Gyfeillion Parc Coffa Ynysangharad a Happy Boots am dyfu ein gardd a'n tŷ gwydr i fod yn ardaloedd o harddwch godidog. Mae Calon Taf wedi ffynnu oherwydd gwaith caled a frwdfrydedd ein gwirfoddolwyr. Byddem wrth ein bodd yn gweld wynebau newydd yn y flwyddyn newydd! Beth am ymuno â'n grwpiau garddio? Mae gennym Gyfeillion ar ddydd Mercher 10-12 ac Happy Boots ar ddydd Gwener 11-1.

Rydym yn edrych ymlaen at 2026 - blwyddyn sy'n nodi 100 mlynedd o'r Bandstand. Mae llawenydd mewn hel atgofion ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ond rydym mor gyffrous am y pethau sydd ar y gweill - cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol yn y flwyddyn newydd am fwy o gyfleoedd i ddysgu, mwynhau a dathlu treftadaeth gyfoethog Parc Coffa Ynysangharad!

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Wedi ei bostio ar Wednesday 17th December 2025

Tudalennau Perthnasol