Skip to main content
www.rctcbc.gov.uk

Dathlu Blwyddyn o Gymuned, Treftadaeth a Thwf yng Nghanolfan Calon Taf

Wrth inni edrych yn ôl ar y 6 mis ers i Ganolfan Calon Taf agor ei drysau i’r cyhoedd, mae’n anodd peidio â theimlo balchder a diolchgarwch am yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i gyllidwyr y prosiect yma; Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Gan ddechrau’r gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2022, roedd ein gweledigaeth yn glir: creu canolfan lle byddai modd i’r gymuned gysylltu â’i threftadaeth, dysgu, a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau. Erbyn 6 Awst, 2023, mewn pryd i ddathlu canmlwyddiant y parc, roedden ni'n barod i groesawu pawb i ganolfan sy'n fwrlwm o fywyd, dysg, a dathliad o'n hanes a rennir.

Canolfan Gweithgarwch

Yn fuan iawn, daeth Canolfan Calon Taf yn ferw o brysurdeb, gan gynnig ystod eang o achlysuron a dosbarthiadau ar gyfer pobl o bob oed a diddordeb. Ar gyfer aelodau iau ein cymuned, roedd crefftau awyr agored, gweithdai dawns, a theithiau cerdded hanes i ysgolion yn ffordd llawn hwyl ac addysgol o ymgysylltu â hanes cyfoethog y parc. Roedd digonedd ar gael i oedolion a phobl hŷn hefyd, gyda dosbarthiadau fel "All About Me" yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofalgar a lles, cyrsiau galwedigaethol fel Cymorth Cyntaf a Hylendid Bwyd, a sesiynau Celf er Lles a oedd yn cynnig cyfle i fod yn greadigol ac i ymlacio.

Yn dilyn adfywiad y safle seindorf, cafodd ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer achlysuron diwylliannol, gan ddod â bywiogrwydd newydd i'r parc. Roedd corau lleol, deuawd llinynnol, a pherfformiadau gan fandiau ac unawdwyr lleol yn llenwi’r awyr â cherddoriaeth, gan ddenu torfeydd a meithrin ymdeimlad o gymuned. At hynny, mae datblygu byrddau dehongli o amgylch y safle seindorf, yr ardd isel, Lido Cenedlaethol Cymru, a safleoedd arwyddocaol eraill o fewn y parc wedi cyfoethogi dealltwriaeth ymwelwyr o'u treftadaeth, gan gysylltu'r gorffennol â'r presennol mewn ffordd ystyrlon.

I nodi canmlwyddiant y parc, fe wnaethon ni ryddhau llyfryn hanes a oedd yn rhoi crynodeb o'i orffennol cyfoethog, gan sicrhau ei fod ar gael am ddim ar ein gwefan. Nid ar gyfer dathlu carreg filltir yn unig oedd hyn - roedd yn gyfle i rannu stori a hanes lleoliad sydd wedi bod yn gefndir i lawer o fywydau ac achlysuron yn ein cymuned.

Edrych tua’r dyfodol

I bawb sydd wedi cerdded trwy ein drysau, wedi ymuno â’n gweithgareddau, neu wedi rhannu darn o’u hanes gyda ni, dyma ddiolch i chi. Mae eich cyfranogiad a'ch cefnogaeth wedi bod yn allweddol i lwyddiant Canolfan Calon Taf. Dyma edrych ymlaen at lawer yn rhagor o flynyddoedd o greu hanes gyda'n gilydd.

Os oes diddordeb gyda chi mewn cymryd rhan mewn achlysuron neu ddosbarthiadau, neu os hoffech chi gyfrannu'ch atgofion, e-bostiwch CalonTaf@rctcbc.gov.uk neu galwch heibio i'n swyddfa am sgwrs. Mae eich stori chi yn rhan o'n stori ni - rydyn ni'n edrych ymlaen at ei chlywed!

Wedi ei bostio ar Thursday 2nd May 2024