Skip to main content
www.rctcbc.gov.uk

Galwad am Atgofion

Un o’r agweddau mwyaf calonogol ar ddatblygiad Calon Taf yw’r rhoddion hael o ffotograffau ac atgofion o’r parc gan ein hymwelwyr. Mae'r cyfraniadau hyn wedi helpu i gyfoethogi ein harchifau a hefyd wedi tanlinellu'r cysylltiadau personol sydd gan nifer o bobl â'r parc. Rydyn ni'n parhau i wahodd unrhyw un sydd â straeon neu ffotograffau i’w rhannu gyda ni. Bydd hyn yn sicrhau bod tapestri lliwgar hanes y parc yn parhau i dyfu.

Mae'r parc wedi bod yn dyst i atgofion di-rif - picnics yn yr haul, sŵn chwerthin wrth ymyl y safle seindorf, myfyrdodau ger yr ardd isel a dathliadau bywiog yn y Lido. Mae pob ffotograff a phob atgof rydych chi'n ei rannu yn ychwanegu manylyn lliwgar i'n hanes a rennir. Y naratifau personol hyn sy'n dod â'r parc yn fyw.

Sut i Rannu Eich Straeon

Rydyn ni'n eich gwahodd i chwilio trwy eich albymau, hel eich atgofion, a rhannu’r lluniau hynny sydd gyda chi o dreulio amser ym Mharc Coffa Ynysangharad. Boed yn llun du a gwyn o achlysur teuluol o ddegawdau’n ôl, yn llun lliw o gyngerdd awyr agored diweddar, neu’n ddarn ysgrifenedig am ddiwrnod cofiadwy a dreuliwyd yn harddwch y parc - rydyn ni am gadw a diogelu eich straeon chi.

I rannu eich lluniau ac atgofion, e-bostiwch CalonTaf@rctcbc.gov.uk. Fel arall, mae croeso i chi alw heibio i’n swyddfa am sgwrs. Rydyn ni'n awyddus i glywed eich straeon, gweld eich lluniau, a'u cynnwys yn ein casgliad cynyddol sy'n dathlu etifeddiaeth y parc.

Wedi ei bostio ar Thursday 2nd May 2024